Angen Rhoi Hwb i Ddatblygwyr Llai
http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/28190770
Mae angen i'r llywodraeth wneud mwy i roi cyfle i ddatblygwyr llai adeiladu tai yng Nghymru, yn ôl Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB).
Mae'r sefydliad yn dweud hyn yn sgil cyhoeddiad arolwg oedd yn edrych ar y farchnad yn ail chwarter 2014.Dywedodd cyfarwyddwr FMB Cymru, Richard Jenkins:
"Er ei fod yn galonogol i weld twf o fewn y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn parhau, er ei fod wedi gostwng yn ddiweddar - fel gafodd ei ragweld ar ddechrau'r dirwasgiad, mae'r diwydiant wedi bod yn colli sgiliau.
"Wrth i ni ddychwelyd at sefyllfa economaidd well rydym yn gweld diffyg sgiliau digonol mewn rhai sectorau fel gosod brics a phlastro."
Ychwanegodd Mr Jenkins:
"Rwyf hefyd yn pryderu am yr anghydbwysedd o ran cyfleoedd i ddatblygu o fewn adeiladu tai yn parhau i fod yn gryf o blaid adeiladwyr sy'n codi mewn niferoedd.
"Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn sicrhau fod datblygwyr llai yn gallu cystadlu'n effeithiol mewn datblygu adeiladu tai yng Nghymru oherwydd does dim amheuaeth y byddai hyn yn rhoi hwb fawr i Lywodraeth Cymru i gyrraedd y targedau adeiladu."
No comments:
Post a Comment